Published on:18 September 2025
Understanding suicide in older adults – lived experience survey
Older adults are often underrepresented in suicide prevention conversations, despite facing unique challenges such as bereavement, loneliness, declining physical health, barriers to accessing care, and stigma around mental health.
At the Zero Suicide Alliance (ZSA), we’re working in partnership with NHS Wales, NHS Greater Manchester, Cheshire and Merseyside Public Health Collaborative, and NHS Lancashire and South Cumbria to develop a free training course that raises awareness of suicide risk in older adults and offers practical guidance on how to support someone.
To ensure this course reflects real experiences, we’re inviting people to share their stories and insights.
You may be:
- An older adult who has experienced suicidal thoughts or feelings
- A family member, friend, or carer who has supported an older adult through a difficult time
- A professional who has worked with older adults affected by suicide or suicidal thoughts
Your voice matters. By sharing your experience, you can help shape a resource that brings greater understanding, compassion, and hope to others.
Deall hunanladdiad ymhlith oedolion hŷn – arolwg o brofiad byw
Yn aml, does gan oedolion hŷn ddim digon o gynrychiolaeth mewn sgyrsiau atal hunanladdiad, er gwaetha’r ffaith eu bod yn wynebu heriau unigryw fel profedigaeth, unigrwydd, iechyd corfforol sy'n dirywio, rhwystrau o ran cael mynediad at ofal, a stigma ynghylch iechyd meddwl.
Yn y Zero Suicide Alliance (ZSA), rydym yn gweithio mewn partneriaeth â GIG Cymru, NHS Greater Manchester, Cydweithredfa Iechyd Cyhoeddus Swydd Gaer a Glannau Merswy, ac NHS Lancashire and South Cumbria i ddatblygu cwrs hyfforddi rhad ac am ddim sy'n codi ymwybyddiaeth o’r perygl o hunanladdiad ymhlith oedolion hŷn ac yn cynnig canllawiau ymarferol ar sut i gefnogi pobl.
Er mwyn sicrhau bod y cwrs hwn yn adlewyrchu profiadau go iawn, rydym yn gwahodd pobl i rannu eu straeon a'u sylwadau.
Efallai eich bod yn:
- Oedolyn hŷn sydd wedi cael meddyliau neu deimladau hunanladdol
- Aelod o'r teulu, ffrind, neu ofalwr sydd wedi cefnogi oedolyn hŷn trwy gyfnod anodd
- Weithiwr proffesiynol sydd wedi gweithio gydag oedolion hŷn sydd wedi’u heffeithio gan hunanladdiad neu feddyliau hunanladdol
Mae eich llais yn bwysig. Drwy rannu eich profiad, gallwch chi helpu i greu adnodd sy'n dod â mwy o ddealltwriaeth, tosturi a gobaith i eraill.
Note: This training will be made available in English and Welsh.
Sylwch: Bydd yr hyfforddiant hwn ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg.